Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Mai 2022
Amser:
09.01 -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12911
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS Heledd Fychan AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Alessandro Ceccarelli, Llywodraeth Cymru Kirsty Davies-Warner, Llywodraeth Cymru Sian Jones, Llywodraeth Cymru Emily Keoghane, Llywodraeth Cymru Zsanett Swain, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Rhag-gyfarfod preifat
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nododd y
Cadeirydd y byddai Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran Sioned
Williams AS ar gyfer yr holl fusnes sy’n ymwneud â'r
ymchwiliad i absenoldeb disgyblion, sef eitem 6 yn y cyfarfod
hwn.
2 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 13
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i roi mwy o wybodaeth i'r
Pwyllgor am ganfyddiadau adolygiad 2019 o’r rhaglen yr Heddlu
mewn Ysgolion.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
Egwyl
5 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr – trafod y dystiolaeth a materion allweddol
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y materion allweddol.
6 Absenoldeb disgyblion – trafod y dull o gynnal yr ymchwiliad
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad i absenoldeb disgyblion, yn amodol ar rai rhanddeiliaid ychwanegol i roi tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a pheth gwybodaeth bellach am feysydd penodol.